Gwybodaeth

Siani Flewog (3 mis - 18 mis )

Gall yr ystafell Siani flewog gynnal 9 o fabanod gyda 3 aelod o staff ac mae yna lawer o wahanol ardaloedd i’r babanod eu mwynhau’n ddiogel. Mae yna weithgareddau dyddiol sy’n cael eu creu yn arbennig ar gyfer yr oedran, megis chwarae synhwyraidd a chwarae bler, er mwyn sicrhau bod y babanod i gyd yn gallu cymryd rhan yn y profiadau sydd ar gael. Mae’r staff yn gweithio o gwmpas trefn dyddiol unigol pob baban o ran amseroedd nap a bwydo photel i gefnogi’r drefn gartref yn ogystal â phosibl. Mae gan yr ystafell beiriant paratoi poteli a system storio i ddal clytiau a weipiau. Mae yna ystafell dawel hefyd sy’n cynnwys cotiau ar gyfer amser cysgu y babanod. Rydym hefyd yn llwyr gefnogi “baby led weaning” ar gyfer unrhyw faban sy’n dechrau ar y camau cyntaf tuag at fwydydd solid ac yn hyblyg gyda pharatoi gwahanol fyrbrydau i weddu.